Y Bartneriaeth Dysgu, Sgiliau ac Arloesi (LSkIP) yw Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol y De-ddwyrain. Mae'r Bartneriaeth yn dod â meysydd addysg a diwydiant ynghyd yn ogystal â chyrff ac unigolion perthnasol eraill i bennu’r blaenoriaethau economaidd ar gyfer buddsoddi mewn medrau ac argymhellion cysylltiedig. Bydd hyn yn meithrin y swyddi a’r medrau  sydd eu hangen i ddiwallu gofynion yr economi rhanbarthol a'i galluogi i dyfu. Cefnogir y bartneriaeth gan Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau a arweinir gan ddiwydiant sy’n dod ag amrywiaeth eang o gyrff ac unigolion cysylltiedig ar draws y rhanbarth ynghyd.

 

Adolygu cynnydd ers adroddiad 2012 y Pwyllgor Menter a Busnes, Prentisiaethau yng Nghymru.

 

Mae gan raglen y prentisiaethau enw da yng Nghymru. Fodd bynnag, er bod y cyd-destun polisi a’r gefnogaeth ar gyfer prentisiaethau wedi gwella ac mae ymdrechion sylweddol o hyd i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd, mae nifer o’r heriau yma o hyd a bydd angen rhagor o gymorth a datblygiad i fynd i’r afael â nhw yn tymor hir. Mae llawer o'r rhain wedi'u cynnwys mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd yn ymchwiliad 2017. Felly, ni chaiff y rhain eu hailadrodd yma.

 

Craffu ar ba gyngor annibynnol am yrfaoedd sydd ar gael am brentisiaethau a dewisiadau galwedigaethol eraill?

 

Yn enwedig i bobl ifainc, boed hynny yr ysgol, gan Gyrfa Cymru, ar-lein neu o ffynonellau eraill?

 

Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd yn cael eu hystyried yn elfennau hollbwysig wrth i’r rhai sy’n chwilio am lwybr gyrfaol wneud penderfynu a dewisiadau. Mae'n bwysig bod unigolion yn ymwybodol o'r amrywiaeth eang o wahanol alwedigaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn ein heconomi. Dylen nhw hefyd gael gwybod am y posibiliadau gyrfaol y gall y rhain eu cynnig ar eu cyfer nawr ac yn y dyfodol. Yn anffodus, mae tystiolaeth gyfredol yn awgrymu nad yw pobl ifainc, yn gyffredinol, yn dewis y meysydd pwnc sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i gael swyddi ar draws economi’r rhanbarth. Wrth edrych yn fanylach, gwelir bod diffyg gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol am yrfaoedd ar gael ac nad yw’r un gwasanaeth yn cael ei roi i bob dysgwr erbyn hyn gan fod yr esgid fach yn gwasgu ac yn sgîl newidiadau yng Ngyrfa Cymru. Felly, nid yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn cael unrhyw gymorth, ac mae’r cymorth sydd ar gael yn cael ei dargedu ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, hyfforddiant na swydd. Gan nad yw’r un cymorth yn cael ei roi i bawb, mae’r cyngor a roddir mewn ysgolion yn amrywio a cheir negeseuon cymysg ynglŷn ag ansawdd y wybodaeth, cyngor a arweiniad a roddir am yrfaoedd. Mae llawer yn tynnu sylw at y ffaith bod y rhai nad ydyn nhw’n cael cymorth Gyrfa Cymru yn dibynnu fwyfwy ar adnoddau ar-lein, arweiniad rhieni a pha bynnag wybodaeth a chysylltiad â byd diwydiant y mae’r ysgol yn gallu ei chynnig.

 

Mae’r prinder gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd i bob dysgwr yn golygu na ellir gwarantu pa wasanaeth sy’n cael ei roi. Nid yw hyn yn ddigonol i lywio a pharatoi’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch eu dyheadau gyrfaol. Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth o’r ystod eang o alwedigaethau sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys y rhai sy’n rhan o fframweithiau prentisiaethau a’r lefelau gwahanol sydd ar gael gan amlygu’r cyfleoedd y gall y rhain eu cynnig i ddatblygu yn y dyfodol. Rhaid gwneud rhagor i ysbrydoli ac ennyn diddordeb unigolion mewn galwedigaethau fydd yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol a hynny mewn meysydd sy’n helpu busnesau i dyfu, rhoi hwb i’r economi ac yn cynyddu ffyniant.

 

Yn aml, mae modd ennyn diddordeb mewn galwedigaethau drwy gydweithio â diwydiant ac unigolion ysbrydoledig. Law yn llaw â hynny, bydd cyngor ac arweiniad annibynnol am yrfaoedd o fudd er mwyn deall natur ac ystod y dewisiadau sydd ar gael wrth ddewis llwybr gyrfa. Mae hyn yn awgrymu mai cydweithio yw’r ateb drwy gael mewnbwn gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cyflogwyr, cyrff diwydiant, ysgolion, colegau a Gyrfa Cymru. Mae model Dosbarth Busnes BITC a gyflwynwyd trwy Gyrfa Cymru wedi bod yn llwyddiannus, ond rhaid ystyried a fydd ei gost yn gynaladwy ar gyfer y dyfodol y tu hwnt i’r rheini sy’n gallu ei fforddio ac yn fodlon ei ariannu.

 

Tra bod rhai yn dadlau nad oes modd defnyddio ysgolion neu nad ydyn nhw’n gwneud digon i amlygu’r prentisiaethau sydd ar gael, mae adborth diweddar yn awgrymu y byddai ysgolion yn croesawu cael cyswllt galwedigaethol ym myd gwaith wedi’i gydlynu gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Gellir gwneud hyn drwy greu cytundebau lefel gwasanaeth rhwng ysgolion a darparwyr dysgu mewn gweithleoedd a fyddai’n galluogi ymweliadau rheolaidd a chyflwyniadau i hyrwyddo prentisiaethau, gan gynnwys nosweithiau rhieni, cysylltiadau cyflogwyr a phrofiad gwaith. Bydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn ystyried y syniad yma i weld faint fyddai’n cefnogi dull o’r fath i ategu ymarfer yn y dyfodol a’i oblygiadau.

 

Mae’r Bartneriaeth wedi cael sylwadau gan gyflogwyr sy’n awgrymu bod parodrwydd ar draws byd diwydiant i gydweithio ag ysgolion a chymryd rhan mewn cynlluniau sy’n codi ymwybyddiaeth o’r llu o alwedigaethau sydd ar gael, herio canfyddiadau, ysbrydoli unigolion a chwalu rhwystrau. Fodd bynnag, er bod mentrau llwyddiannus, mae llawer o gyflogwyr yn ansicr ynghylch sut i gymryd rhan. Roedd rhai wedi ceisio cymryd rhan ond heb gael ymateb gan ysgolion, tra bod eraill yn awgrymu bod angen cydlynu hyn yn well. Yn yr un modd, er bod llawer o wahanol gynlluniau i’w helpu i gydweithio ag ysgolion, roedd llawer yn teimlo bod diffyg cydlyniant neu gysylltiad rhwng y cynlluniau yma ac nid oedd yn glir ym mha feysydd y ceir digon a ddarpariaeth a’r meysydd lle mae darpariaeth yn brin.

 

Mae angen cymryd camau a buddsoddi mewn trefniadau cydlynu er mwyn helpu byd addysg a byd diwydiant i gydweithio yn ogystal â chynnig yr un gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd.

 

Ydy Gwasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru yn effeithiol?

 

Mae gwir angen gwasanaeth paru prentisiaethau a dylid cefnogi ymdrechion i’w ddatblygu a buddsoddi ynddo. Fodd bynnag, mae rhai o’r farn nad yw’r gwasanaeth ar-lein presennol yn arbennig o hwylus nac effeithiol ac mai hyn a hyn yn unig y mae’n gallu ei gynnig e.e. amrywiaeth y prentisiaethau a restrir a phryd maen nhw’n cael eu hysbysebu. Mae’r teclyn chwilio hefyd yn gallu cyfyngu ar nifer ac amrywiaeth y dewisiadau a restrir. Mae angen gwneud rhagor i wella’r wefan, codi ymwybyddiaeth ohoni a’r cyfleoedd a gynigir arni ar gyfer pawb sy’n ystyried swyddi posibl, gan gynnwys y rhai sy’n gadael yr ysgol.

 

Mae angen symleiddio’r wefan a hyrwyddo prentisiaethau drwy gydol y flwyddyn.

Mae angen iddi gynyddu nifer ac ystod y cyfleoedd y mae'n ei chynnig a datblygu i fod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am brentisiaethau, gyda dolenni i wybodaeth berthnasol sydd y tu hwnt i hysbysebu prentisiaethau yn unig. Gellir gwella tudalen hafan y wefan er mwyn hysbysebu prentisiaethau yn well a’u manteision. Gallai hefyd gynnwys prentisiaethau newydd neu gyffrous yn ogystal â chynnig dull mwy hwylus o chwilio am gyfleoedd.

 

Awgrymwyd hefyd y dylai bod modd i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud prentisiaethau allu cofrestru neu ofyn am gyfleoedd o’r fath ar y wefan. Byddai hyn yn tynnu sylw at lefel y galw/diddordeb gan ddysgwyr, i ba raddau y bodlonir y galw yma, a thargedu camau.

 

Sut gellir gwella statws prentisiaethau fel bod llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn cael yr un parch?

 

Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau a herio canfyddiadau yn eu cylch. Mae angen amlygu eu manteision a thargedu unigolion sy’n dewis llwybrau galwedigaethol, cyflogwyr a’r rhai sy’n cael cryn ddylanwad, fel rhieni ac athrawon, i hyrwyddo’r llwybr yn yr un modd.

 

Mae rhai o'r farn bod llwybrau academaidd a galwedigaethol wedi’u gosod i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Awgrymwyd y gellir hyrwyddo dau lwybr ar y cyd sy’n cyflawni’r un nod galwedigaethol a defnyddio astudiaethau o achosion sy’n dangos y gwahanol lwybrau a sut maen nhw’n gallu arwain at yr un galwedigaeth yn y pen draw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth hyrwyddo, er enghraifft, prentisiaethau lefel uwch neu broffesiynau lle gall llwybr academaidd a galwedigaethol gyflawni’r un statws proffesiynol a’r cymhwysedd i ymarfer. Gall graddau prentisiaeth hefyd gynnig ffordd o roi’r un statws i’r ddau lwybr.

 

Mae angen esiamplau ac astudiaethau o achosion o fewn diwydiant i godi ymwybyddiaeth, ysbrydoli a gwerthu manteision llwybrau galwedigaethol a phrentisiaethau ymhlith y rhai sy’n chwilio am lwybrau i fyd gwaith. Dylai’r rhain amlygu llwyddiannau ar draws y sbectrwm o alwedigaethau a lefelau sydd ar gael. Mae'n bwysig bod yr enghreifftiau mor amrywiol â’r prentisiaid eu hunain ac yn adlewyrchu amrywiaeth o ran oed, rhywedd a nodweddion eraill i ddangos sut maen nhw’n apelio’n gyffredinol yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw ganfyddiadau.

 

Ar ben hynny, mae angen cynnig cyfleoedd i’r rhai sydd ym myd addysg i weld gwerth cyfleoedd galwedigaethol ac sy’n seiliedig ar fyd gwaith fel llwybr amgen. Gall addysg a hyfforddiant sy’n ymwneud â byd gwaith gynnwys clybiau dydd Sadwrn a phrofiad gwaith. Gall rhaglenni paratoi ar gyfer prentisiaethau fod o ddefnydd er mwyn ysbrydoli ac ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol a’u helpu i baratoi ar gyfer prentisiaethau a chynlluniau dysgu eraill yn y gweithle.

 

Dylai cyflogwyr, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw’n cynnig prentisiaethau, heb wneud hynny yn y gorffennol, neu sydd heb ddatblygu beth maen nhw’n ei gynnig ers cryn amser, gael eu cynorthwyo i ystyried y prentisiaethau maen nhw’n eu cynnig. Mae sgyrsiau gyda rhai cyflogwyr yn amlygu rhai camsyniadau ynghylch pwy mae’r prentisiaethau’n eu targedu, lefelau ac amrywiaeth y fframweithiau sydd ar gael, a sut gall hyn fod o fudd i’w busnes, gan gynnwys cynnig y cyfle i ehangu eu prentisiaethau mewn meysydd newydd. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol mewn meysydd fel prentisiaethau lefel uchel lle mae angen hyrwyddo statws cyfartal y llwybrau academaidd a galwedigaethol. Mae ardoll y prentisiaethau wedi creu diddordeb o'r newydd mewn prentisiaethau ymysg cyflogwyr. Gellir defnyddio hyn i ymgysylltu’n well ac annog cyflogwyr i ddefnyddio rhagor o brentisiaethau fel ffordd amgen ond cyfartal o ennill cymhwyster galwedigaethol.

 

Mae angen mynd ati i herio canfyddiadau’r rheini sydd â dylanwad a’u darbwyllo ynghylch statws cyfartal y ddau lwybr a’u manteision. Mae angen i’r rhai sydd â dylanwad, gan gynnwys rhieni ac athrawon, fod yn rhan o drafodaeth ehangach sy’n gwella addysg ac ymwybyddiaeth o sut mae prentisiaethau a llwybrau galwedigaethol wedi datblygu, natur ac amrywiaeth y dewisiadau sydd ar gael a’u manteision.

 

Ymchwilio i’r prif ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag gwneud prentisiaethau?

 

Mae’r canfyddiad ynghylch y dewis i ddysgwyr yn rhwystr amlwg, yn enwedig ymysg rhieni ac athrawon. Mae angen gwneud llawer rhagor i herio’r canfyddiadau yma, addysgu a chodi ymwybyddiaeth o bosibiliadau a manteision prentisiaethau ac amlygu’r ystod eang o alwedigaethau a’r gwahanol lefelau sydd ar gael.

 

Yn yr un modd, mae angen herio safbwyntiau traddodiadol am brentisiaethau. Gallai rhai cyflogwyr elwa o gael cymorth i ystyried sut y defnyddir prentisiaethau yn eu busnes a gwella eu dealltwriaeth o brentisiaethau a sut i fanteisio arnyn nhw. Gellir hefyd rhoi gwybod iddyn nhw am amrywiaeth eang y fframweithiau, galwedigaethau a’r lefelau sydd ar gael a sut y gellir creu fframweithiau newydd pan mae tystiolaeth glir a digonol o’r angen.

 

I unigolion, gall dod o hyd i le ar raglen brentisiaeth a deall y systemau a’r prosesau cysylltiedig fod yn dalcen caled. Mae angen gwasanaeth cymorth llawer mwy effeithiol a rhagweithiol i ddenu a pharu prentisiaid â chyfleoedd posibl. Ar ben hynny, mae angen deall faint o alw sydd am leoedd ar raglenni prentisiaeth i weld a oes unrhyw brinder cyfleoedd.

 

Mae llawer yn awgrymu y byddai rhaglen baratoadol o fudd mawr. Yn ôl pob golwg, mae cryn gefnogaeth ar gyfer rhaglen o’r fath ar gyfer plant 14-16 oed ac y gallai rhaglen gychwynnol fwy cyffredinol fod o fudd i eraill. Yn y naill achos fel y llall, y nod yw gwneud yn siŵr bod yr ymgeisydd yn barod ar gyfer byd gwaith drwy lwybr prentisiaeth.

 

A ydy prentisiaethau ar gael i bobl ag anableddau (o bob oed)?

 

Mae prentisiaid yn aml yn cael eu recriwtio drwy broses recriwtio gystadleuol a ddylai gynnig cyfle cyfartal. Mae angen gwneud rhagor o ymchwil i ddeall unrhyw anawsterau, meini tramgwydd posibl a pha gymorth allai fod ei angen.

 

Sut gellir helpu pobl o deuluoedd sy’n ennill yr incwm isaf i ymgymryd â phrentisiaethau?

 

Mae rhaglen baratoadol neu fynediad at brentisiaeth wedi’i hawgrymu fel ffordd o ddenu ymgeiswyr, gwneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a’u helpu i gael swydd benodedig drwy lwybr prentisiaeth.

 

Ceir her hefyd o ran y gwahanol gyflogau sylfaenol a gynigir i brentisiaid ar sail oedran. Dylid ystyried p’un a yw’r cyflog is yn ddigonol ar gyfer costau byw cyffredin. Gellir ystyried rhoi rhagor o gymorth i’r rheini o’r teuluoedd incwm isaf sy’n cymryd rhan yn y prentisiaethau i dalu costau ychwanegol fel teithio i’r gwaith a chynhaliaeth.

 

Pa arferion da sy’n digwydd ar hyn o bryd a beth yn rhagor y gellir ei wneud i osgoi rhagdybio pa rolau sy’n addas ar sail rhyw?

 

Mae’r sectorau addysg a diwydiant yn gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â hyn a cheir enghreifftiau da ym meysydd fel adeiladu, peirianneg ac eraill. Mae’r her yn un sylweddol, sy’n golygu bod angen i’r gwaith yma ddatblygu a pharhau. Fodd bynnag, nid yw gweithio gyda’r rhai sy’n gwneud dewisiadau ynglŷn â’u gyrfaoedd yn unig yn ddigon. Rhaid dylanwadu ar unigolion pwysig eraill fel rhieni ac athrawon yn ogystal â gweithleoedd er mwyn annog a hyrwyddo gweithlu amrywiol.

 

Croesewir rhaglenni sy’n defnyddio modelau rôl ac yn datblygu llysgenhadon neu hyrwyddwyr sy’n gallu cwestiynu safbwyntiau traddodiadol a chwalu unrhyw rwystrau canfyddedig.

 

Craffu ar ddatblygiad prentisiaethau lefel uwch, gyda chymorth sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch?

 

Pa mor effeithiol yw dilyniant rhwng prentisiaethau a rhaglenni dysgu eraill sy’n seiliedig ar fyd gwaith a rhwng phrentisiaethau lefelau 2, 3, 4 ac uwch?

 

Yn draddodiadol, symud ymlaen rhwng rhaglenni lefel 2 a 3 sydd wedi’i ystyried fel y cam arferol. Mae mynd ymlaen i lefel 4 ac uwch yn anoddach, yn enwedig pan mae swyddi yn cyfyngu ar allu’r ymgeisydd i ddangos cymhwysedd ar y lefelau uwch.

 

Mae angen llwybrau dilyniant clir a chydlynol hyd at y lefelau uchaf, boed hynny drwy brentisiaethau neu symud rhwng ac ar draws rhaglenni academaidd a galwedigaethol i alluogi ymgeiswyr i symud ymlaen.

 

Mae nifer ac ystod cyfyngedig y prentisiaethau lefel uwch a’r diffyg fframwaith clir ar gyfer cyflwyno prentisiaethau gradd yn broblem. Mae angen cynyddu nifer ac ystod y partneriaethau lefel uwch i gynnig mwy o gyfleoedd i gymryd rhan a symud ymlaen ar lefelau 4 ac uwch, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd mwy cyfartal i ennill cymwysterau mewn galwedigaethau lefel 5 a thu hwnt. Mae angen polisi clir, fframwaith ac arian hefyd wrth gyflwyno’r prentisiaethau gradd mewn ymateb i’r galw amlwg gan gyflogwyr a phroffesiynau.

 

Mae cyfle i hyrwyddo cydweithio wrth ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth ehangach o brentisiaethau lefel uwch a phrentisiaethau gradd drwy fanteisio ar arbenigedd darparwyr dysgu yn y gwaith mewn addysg bellach ac uwch. Bydd hyn yn cydnabod cyfraniadau a/neu gryfderau’r holl ddarparwyr ac yn manteisio arnyn nhw.

 

Sut gall cyflogwyr gymryd rhan mewn prentisiaethau yn fwy effeithiol?

 

Mae angen gwell hyrwyddo, addysg ac ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a'r manteision y mae prentisiaethau’n eu cynnig. Dylai astudiaethau o achosion a modelau rôl gael eu defnyddio’n rhan o ymgyrch drefnus i godi proffil a phosibiliadau prentisiaethau ymysg cyflogwyr yn ogystal ag unigolion dylanwadol fel rhieni ac athrawon, ac mewn ysgolion.

 

Gall ymestyn cynlluniau prentisiaeth llwyddiannus a rennir, fel yr un yn Ardal Fenter Glyn Ebwy, helpu i gynyddu nifer y busnesau bach a chanolig sy’n cymryd rhan mewn partneriaethau. Datblygir y rhain mewn ymateb i'r galw a ysgogir gan grwpiau o gyflogwyr. Gallai mwy o hyblygrwydd fod o gymorth wrth gyflwyno prentisiaethau, o ran lleihau’r gwaith gweinyddol a biwrocratiaeth, gan fod hyn yn aml yn cael ei ystyried yn rhwystr ac yn faich i fusnesau bach a chanolig a chyflogwyr bach, yn enwedig.

 

Mae cynnig cymorth i gyflogwyr yn hanfodol, yn enwedig i’r rhai sydd heb gymryd rhan mewn prentisiaethau o’r blaen. Rhaid cynnig un ddolen gyswllt neu ffynhonnell wybodaeth sy’n gallu egluro beth yw prentisiaethau a sut maen nhw’n gallu bod o fudd i’r busnes. Bydd hefyd yn rhoi cyngor am sut i gael gafael ar brentisiaethau a bydd yn cysylltu cyflogwyr â darparwyr. Bydd rhai cyflogwyr yn cael y wybodaeth yma a chyngor uniongyrchol gan ddarparwyr dysgu yn y gwaith, a bydd cyflogwyr eraill yn cael cyngor a chymorth gan gwmni allanol ynghylch sut mae prentisiaethau yn gweithio a'r dewisiadau sydd ar gael. Mae’n bosibl y gellir cynnig cymorth wedi’i deilwra a/neu gysylltu hyn â ffynonellau eraill sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau.

 

Mae ardoll y prentisiaethau yn codi ymwybyddiaeth ac yn ffordd hollbwysig o ennyn diddordeb cyflogwyr mewn prentisiaethau. Mae hyn yn her, ond mae hefyd yn gyfle euraidd i gydweithio â chyflogwyr a’u cyflwyno i brentisiaethau neu eu hannog i ddefnyddio rhagor o brentisiaethau. Rhaid manteisio ar y diddordeb hwn sydd gan gyflogwyr mewn prentisiaethau drwy gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad clir iddynt, yn ogystal â chynyddu nifer ac ystod y cyfleoedd a gynigir.